Yn bresennol
|
Categori
|
Enwau
|
|
Aelodau’r
Pwyllgor:
|
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)
Paul Davies AS
Heledd Fychan AS
Jane Hutt AS
|
|
Staff y
Pwyllgor:
|
Graeme Francis (Clerc)
Steffan Lewis (Dirprwy Glerc)
|
|
Eraill yn
bresennol
|
Jane Dodds AS
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd
Julian Luke, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd
Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a
Phwyllgorau
Marc Wyn Jones, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a
Deddfwriaeth
Lisa Griffiths, Clerc
Gweithdrefnau
Helen Carey, Llywodraeth Cymru
|
<AI1>
1
Cyflwyniad,
ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y
Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd
ymddiheuriadau.
</AI1>
<AI2>
2
Cofnodion y
cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w
cyhoeddi.
</AI2>
<AI3>
3
Trefn
Busnes
</AI3>
<AI4>
3.1
Busnes yr wythnos
hon
Dydd
Mawrth
Dywedodd Jane
Dodds ei bod wedi ysgrifennu at y Trefnydd i ofyn am ddatganiad
llafar ar y sefyllfa bresennol gydag Undeb Rygbi Cymru a'r Gweilch.
Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai'n ystyried y cais.
Nododd y
Pwyllgor Busnes y canlynol:
- Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes
- Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Dydd
Mercher
- Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm.
</AI4>
<AI5>
3.2
Amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i
amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf:
Dydd Mawrth 10 Chwefror 2026
- Rheoliadau
Ardrethu Annomestig (Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2026
(5 munud)
- Rheoliadau
Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol)
(Cymru) 2026 (15 munud)
- Rheoliadau
Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi
Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026 (5
munud)
- Rheoliadau
Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy'n
Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026 (5 munud)
- Rheoliadau
Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru)
2026 (15 munud)
- Rheoliadau
Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract)
(Cymru) (Diwygio etc.) 2026 (5 munud)
</AI5>
<AI6>
3.3
Amserlen busnes y
Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd
am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 04 Chwefror 2026 -
- Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus:
Teithio Llesol yng Nghymru (60 munud)
- Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Gwasanaethau
Offthalmoleg yng Nghymru (60 munud)
- Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer:
Buffy Williams (Rhondda) (30 munud)
Nododd y
Rheolwyr Busnes mai'r bwriad yw y bydd y gyfran gyntaf o
adroddiadau newid Rheolau Sefydlog i baratoi ar gyfer y Seithfed
Senedd yn cael ei chynnig i'r Senedd gytuno arnynt yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mercher 25 Chwefror, ac y bydd rhagor o fanylion yn
cael eu darparu yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.
Trafododd y
Rheolwyr Busnes opsiynau ar gyfer amserlennu busnes y Senedd ar 4
Mawrth pan gynhelir trafodion Cyfnod 3 ar y Bil Iaith Arwyddion
Prydain (Cymru).
</AI6>
<AI7>
3.4
Effaith Aelod yn
gadael grŵp gwleidyddol
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
- cynnig y lle
gwag ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i James Evans AS ac,
os na fydd yn cymryd y lle hwn, dyrannu'r sedd wag i
Grŵp Plaid
Cymru;
- addasu dyraniad
amser dadl yr wrthblaid i gymhareb 1:1;
- bod y drefn y
mae arweinwyr a llefarwyr y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cael eu
galw i ofyn cwestiynau llafar yn cael ei newid bob yn ail yn
wythnosol; a
- nodi bwriad y
Llywydd i newid y drefn y mae siaradwr cyntaf y Ceidwadwyr a
siaradwr cyntaf Plaid Cymru yn cael eu galw i gyfrannu at
ddatganiadau llafar a dadleuon.
</AI7>
<AI8>
4
Deddfwriaeth
</AI8>
<AI9>
4.1
Llythyr gan
Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau at y Cwnsler Cyffredinol a'r
Gweinidog Cyflawni mewn perthynas â phenderfyniad ariannol
Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)
Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr. Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai'r
Cwnsler Cyffredinol yn ymateb i'r llythyr.
</AI9>
<AI10>
4.2
Llythyr gan
Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a
Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch gwrthdaro amserlennu â
dadl y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol
Sâl (Diwedd Oes)
Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr. Cadarnhaodd y Trefnydd nad oedd y
Llywodraeth yn bwriadu ail-drefnu'r ddadl ar y Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)
sydd i ddigwydd ar 24 Chwefror.
</AI10>
<AI11>
4.3
Llythyr gan y
Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y
Bil Cyllid (Rhif 2)
Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i roi gwybod i Bwyllgor
Busnes y Seithfed Senedd y gallai fod angen iddo ystyried y
goblygiadau gweithdrefnol sy'n deillio o gyfraddau treth incwm
eiddo Cymru, a sut y byddai hyn yn gweithredu ochr yn ochr â
phenderfyniad cyfraddau treth incwm blynyddol Cymru.
</AI11>
<AI12>
4.4
Diweddariad ar
Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y
Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunodd
i:
- gyfeirio’r Memorandwm ar y Bil Rheilffyrdd at y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda
dyddiad terfynol o 20 Mawrth i gyflwyno adroddiad arno.
</AI12>
<AI13>
5
Trefniadau
Cyflwyno
</AI13>
<AI14>
5.1
Trefniadau
Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg a'r Diddymiad
Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes gyngor gan y Swyddfa Gyflwyno a
chytunodd:
- mai'r terfyn
amser ar gyfer derbyn Cwestiynau Ysgrifenedig fydd 4pm ddydd Gwener
20 Mawrth;
- mai'r terfyn
amser ar gyfer derbyn eitemau eraill o fusnes a gyflwynir, ac
eithrio busnes brys yn ymwneud ag unrhyw gyfarfodydd adalw a
gynhelir yn ystod toriad y Pasg, fydd 4pm ddydd Gwener 27
Mawrth;
- y bydd y
Swyddfa Gyflwyno ar agor rhwng 10am a 3pm yn ystod y toriad, ac
eithrio dydd Mawrth 7 Ebrill pan fydd ar agor tan 6pm;
- nad oes modd
derbyn dim dogfennau i'w gosod os ydynt yn dod i law ar ôl
6pm ddydd Mawrth 7 Ebrill;
- nad oes modd
gwneud unrhyw newidiadau i'r Gofrestr Buddiannau ar ôl 6pm
ddydd Mawrth 7 Ebrill; ac
- mai'r dyddiad
olaf ar gyfer cyflwyno dogfennau sy'n ymwneud â
gweithgareddau Grwpiau Trawsbleidiol yw 6pm ddydd Mawrth 7 Ebrill
ac y bydd yr holl Grwpiau Trawsbleidiol yn cael eu dadgofrestru'n
awtomatig unwaith y bydd y diddymiad yn dechrau am hanner nos ddydd
Mercher 8 Ebrill.
</AI14>
<AI15>
6
Gwaith
Gweithdrefnol
</AI15>
<AI16>
6.1
Datganiadau o
fuddiant: nodyn ychwanegol
Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes nodyn ychwanegol ynghylch materion a godwyd yn y
cyfarfod blaenorol a chytunodd i ddychwelyd i ystyriaeth bellach
o'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei
gyfarfod ddydd Iau 29 Ionawr, yn dilyn ymgynghori â
grwpiau.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad er
mwyn gofyn i'w ddiwygiadau arfaethedig i'r canllawiau sy'n ymwneud
â datgan buddiannau (y 'prawf perthnasedd') ddyfynnu Rheolwyr
Busnes neu'r Trefnydd, wrth gyflwyno ar ran eu grŵp neu'r
llywodraeth, fel enghraifft o lle na ellid fel arfer feddwl yn
rhesymol bod buddiant personol wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i
wneud hynny.
</AI16>
<TRAILER_SECTION>
</TRAILER_SECTION>
<LAYOUT_SECTION>
1.
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
2.
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
<HEADING_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
</HEADING_LAYOUT_SECTION>
<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_SUMMARY
</COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.1
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.2
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>